2020 Rhif (Cy. )

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) sy’n pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau.

Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod rheoliad 6A yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr tatws sy’n tarddu o Libanus pan fo arolygydd yn cymryd samplau o lot tatws at ddibenion Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1614 sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus (OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 85).

Mae rheoliad 2(3) yn amnewid Atodlen 2 i Reoliadau 2018, sy’n nodi ffioedd cyfradd gostyngol sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad ar gyfer gwiriadau iechyd planhigion mewn cysylltiad â phlanhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i lefelau is o wiriadau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau diogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1). Mae’r rheoliad hwn yn rhoi effaith i’r hysbysiad diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd am y lefelau is o wiriadau iechyd planhigion sy’n gymwys i blanhigion penodol ac i gynhyrchion planhigion penodol (a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd 2019).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

2020 Rhif (Cy. )

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed                                28 Ionawr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       29 Ionawr 2020

Yn dod i rym                      24 Chwefror 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973([1]), sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]).

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 24 Chwefror 2020.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl rheoliad 6 mewnosoder—

Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffi

6A.—(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckermann and Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £70.83 mewn cysylltiad â phob lot sy’n cael ei samplu.

(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1614 sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus([4]).

(3) Yn lle Atodlen 2 rhodder—

            ATODLEN 2 Rheoliad 3(2) a (3)

Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol

            Genws

Gwlad Tarddiad

Ffi (£)

Blodau wedi eu torri

Aster

Zimbabwe

32.06

Dianthus

Colombia

1.28

 

Ecuador

6.41

 

Kenya

2.14

 

Twrci

6.41

Rosa

Colombia

1.28

 

Ecuador

0.43

 

Ethiopia

2.14

 

Kenya

4.28

 

Tanzania

21.38

 

Zambia

4.28

Canghennau gyda deiliant

Phoenix

Costa Rica

17.00

Ffrwythau

Actinidia

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Carica papaya

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Citrus

Yr Aifft

39.83

 

Mecsico

26.55

 

Moroco

1.59

 

Periw

5.31

 

Twrci

1.59

 

UDA

13.28

Cydonia

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)

2.66

Fragaria

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Malus

Yr Ariannin

18.59

 

Brasil

26.55

 

Chile

2.66

 

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)

2.66

 

Seland Newydd

5.31

 

De Affrica

2.66

Mangifera

Brasil

26.55

Passiflora

Colombia

3.72

 

Kenya

13.28

 

De Affrica

26.55

 

Fiet-nam

13.28

 

Zimbabwe

39.83

Persea americana

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Prunus

Yr Ariannin

39.83

 

Chile

5.31

 

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)

2.66

 

Moroco

26.55

 

Twrci

18.59

Prunus ac eithrio prunus persica

De Affrica

5.31

Pyrus

Yr Ariannin

7.97

 

Chile

7.97

 

Tsieina

26.55

 

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)

2.66

 

De Affrica

5.31

Ribes

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)

2.66

Rubus

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Vaccinium

Yr Ariannin

13.28

 

Chile

5.31

 

Periw

5.31

 

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)

2.66

Vitis

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Llysiau

Solanum lycopersicon

Yr Ynysoedd Dedwydd

2.66

 

Moroco

2.66

Solanum melongena

Twrci

7.97

(1) Mae “drydedd wlad yn Ewrop” yn cynnwys Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Belarws, Bosnia-Herzegovina, Yr Ynysoedd Dedwydd, Ynysoedd Faröe, Georgia, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Moldofa, Monaco, Montenegro, Gogledd Macedonia, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: Y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky federalny okrug)), San Marino, Serbia, Twrci ac Ukrain.

 

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Ionawr 2020



([1])           1973 p. 51; diwygiwyd adran 56(1) gan O.S. 2011/1043, ac mae wedi ei diwygio yn rhagolygol gan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd  (Ymadael) 2018 (p. 16) o ddyddiad ac amser sydd i’w bennu.

([2])           Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 2018/1179 (Cy. 238), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1378 (Cy. 244).

([4])           OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 85.